Wednesday, November 18, 2020

Ysgol Y Gwernant celebrates renewal of Platinum Flag Award


* Ysgol Y Gwernant pupils celebrate their success.

Pupils at Ysgol y Gwernant, Llangollen  have proven their green credentials after being awarded a top eco award. 

The school have succeeded renewing the prestigious Platinum Flag Award for the third time as part of the environmental education programme Eco-Schools.

Eco-Schools is an international programme run in Wales by environmental charity Keep Wales Tidy and funded by the Welsh Government. 

Over 90% of schools in Wales are registered on the programme.

The Eco-Schools programme inspires and empowers pupils to be leaders of change in their community, helping them learn about sustainable living and global citizenship while giving them the information and support they need to make changes that will benefit their school, local environment and wider community, such as reducing waste, energy consumption, transport, biodiversity, healthy living and litter issues.

As part of their Eco-Schools Platinum assessment, Ysgol Y Gwernant continue to recycle various materials, complete litter picks, reduce the use of plastic, monitor taps, computer screens and lighting daily to reduce energy and water within the school. 

They also complete regular nature tasks in the outdoor / wild garden and ensure that eco issues are implemented in the school lessons/themes.

Catrin Hughes, Education Officer for Keep Wales Tidy, said:  "We understand that this is a unique and challenging time and therefore it’s great that you are continuing to fulfil your long term action plans as well as your plans to proceed with your new targets. The school, teachers and pupils should feel proud of their hard work and commitment."

                    YSGOL Y GWERNANT YN DATHLU ADNEWYDDU EU STATWS PLATINWM ECO

Mae disgyblion Ysgol y Gwernant , Llangollen wedi profi eu nodweddion gwyrdd ar ôl llwyddo i ennill gwobr amgylcheddol arbennig.Mae’r ysgol wedi llwyddo i adnewyddu y  Wobr Baner Blatinwm am y trydydd gwaith  yn rhan o’r  rhaglen addysg amgylcheddol, Eco-Sgolion.

Mae Eco-Sgolion yn raglen ryngwladol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus, ac mae’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.Mae dros 90% o ysgolion Cymru wedi cofrestru â’r rhaglen.

Mae Eco-Sgolion yn ysbrydoli ac yn grymuso disgyblion i arwain newid yn eu cymunedau, ac yn eu helpu i ddysgu am fyw’n gynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. Mae hefyd yn rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw i wneud newidiadau a fydd o fudd i’w hysgol, yr amgylchedd lleol a’r gymuned ehangach – fel lleihau gwastraff, defnyddio ynni, trafnidiaeth, bioamrywiaeth, byw’n iach a phroblemau sbwriel.

Fel rhan o asesiad Platinwm Eco-Sgolion, mae Ysgol y Gwernant yn parhau i hybu ailgylchu o bob math , casglu sbwriel  , lleihau gwastraff plastig ,monitro dyddiol i arbed ynni a dŵr o fewn yr ysgol , gweithgareddau natur yn yr awyr agored , integreiddio gweithgareddau Eco i’r gwersi a llawer mwy . Dywedodd Catrin Hughes Swyddog Addysg Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym yn deall ei fod yn amser arbennig a heriol ac felly mae’n wych bod eich gweithredoedd hirdymor yn parhau yn ogystal a’ch bwriad i fwrw ymlaen gyda eich targedau newydd. Dylai’r ysgol , staff a disgyblion deimlo’n falch o’u gwaith caled a’u hymrwymiad.”

No comments:

Post a Comment